Heirs - Heulwen’s story of action and hope
While the COVID pandemic was largely marked by disruption and suffering, the enforced pause also gave rise to new shoots of hope and vision. This was certainly true for Heulwen, whose eyes were opened to the needs facing children in care in Wales.
During lockdown, Heulwen read an article about children and young people in the Welsh care system. The article led her on a search through other blogs, articles and videos. As she cradled her new-born baby and thought about the children who were lacking quality care, Heulwen felt her heart breaking. As she wept and prayed for these children, she asked God to intervene and to deploy His angels to help. She felt God answer, “I’m deploying you.”
“This isn’t my background, this isn’t my field,” says Heulwen. “I’ve been a pastor in a local church for a decade. I had a great family growing up: this really wasn’t my experience. Nevertheless, I hold a deep conviction that I’ve signed up to a faith that says, like the prophet Isaiah, ‘Here I am, send me’. So, when I felt the call, I had to act.”
Heulwen did what we all seemed to do in the pandemic: she held Zoom calls! She reached out to people in her world, recognising that others held expertise and experience that she lacked: a police officer, social workers, teachers, a detective, care-experienced adults… Heulwen asked each of them, “Is it really as bad as I’m reading? Is this really happening?” The clear, consistent response was “yes” and some of the stories were harrowing. Heulwen felt compelled to respond.
“This was happening on my doorstep. It was happening on my watch. Yes, we were in the middle of a pandemic and I was limited in what I could do, but I could do something. So I started to upskill. I read all that I could get my hands on: stats, blogs, websites, legislation, the Home for Good website. I wept a lot! My daily walks were filled with prayer as I called on God to act, as I asked him for clarity: in the enormity of the problem, what could I do?
“Then I learnt that many children who are taken into care have to carry their belongings in a black bin liner or simply don’t have the basic things that they need. A care-experienced friend of mine told me, ‘When my belongings were in bin liners, it made me feel like I was rubbish’. I realised, this is something I can do, I can help with this!
“I felt God give me Romans 8:17: ‘Now if we are children, then we are heirs - heirs of God and co-heirs with Christ…’ To children who may feel they have limited worth or value, to children whose experience of family may be painful, to young people struggling with their sense of belonging and identity, God says ‘you have value beyond measure, you are the handiwork of heaven, you are heirs.’
“In 2021, we launched our charity, Heirs – so named because these children were made to be heirs, not orphans; sons and daughters, not statistics “In 2021, we launched our charity: Heirs, because these children were made to be heirs, not to be forgotten. As COVID restrictions began to ease, we started with a backpack scheme - giving bags full of carefully chosen gifts and practical items to children entering care.
“Our backpacks have been thoughtfully and prayerfully designed. We’ve spoken with care leavers, professionals, children and young people, to help create what’s been coined ‘love in a bag’. Our hope is that these bags would provide some small piece of comfort and dignity at an extremely traumatic time and that this love in a bag would show them something of how truly loved they are.
“Along the way we also learned about children who were removed from homes in emergency situations and were spending hours in police stations while foster placements were being found. We put together Kit Boxes containing Lego, blankets, teddy bears, play dough, story and colouring books – all designed to occupy anxious hands as children waited to learn where they’d be going.
“Early on in my journey I read John C. Maxwell’s ‘How to change your world’, in which he writes, ‘Even the smallest action is better than the greatest intention.’ These resources, bags and gifts feel far too small in the enormity of the problem, but I am spurred on in the knowledge that our God can do a lot with a little: He can take a backpack and change lives.”
Heulwen Davies is a Home for Good Champion and a member of our Wales Advisory Group.
Heirs - Gweithredu a gobaith yn stori Heulwen
Er mae rhai o brif nodweddion pandemig COVID oedd amhariad a dioddef, caniataodd y cyfnod o oedi yma i egin gobaith a gweledigaeth dyfu yn y tir. Yn sicr, yr oedd hyn yn wir am Heulwen, a hithau yn profi agoriad llygaid wrth weld yr anghenion oedd yn wynebu plant mewn gofal yng Nghymru.
Yn ystod y cyfnod clo darllenodd Heulwen erthygl am blant a phobl ifanc oedd o fewn y sustem gofal yng Nghymru. O ganlyniad, aeth yn ei blaen i archwilio blogiau, erthyglau a fideos eraill oedd yn delio â hyn. Wrth fagu ei baban newydd-anedig a meddwl am y plant oedd yn brin o ofal da, meddiannwyd hi gan dor-calon wrth feddwl am y sefyllfa. Wrth wylo a gweddïo dros y plant hyn, gofynnodd i Dduw ymyrryd yn y sefyllfa ac i anfon ei angylion i gynorthwyo. Daeth yn ymwybodol o ateb Duw, “rwy’n dy anfon di.”
Yn ôl Heulwen, “Nid dyma fy nghefndir, nid hwn yw fy maes.”. “Rwyf wedi bod yn weinidog mewn eglwys leol am ddegawd. Cefais fy magu o fewn i deulu ardderchog: nid dyma fy mhrofiad. Er hynny, rwy’n dal at argyhoeddiad dwfn fy mod wedi ymrwymo i ffydd sy’n dweud, fel y proffwyd Eseia, ‘Wele fi, anfon fi’. Felly, o glywed y galwad, rhaid oedd gweithredu.”
Fel oedd yn gyffredin i bob un ohonom yn ystod y cyfnod clo, dyma Heulwen yn dechrau cynnal cyfarfodydd Zoom! Daeth i gyswllt â’r bobl hynny yn ei bywyd oedd yn meddu rhywbeth o’r profiad yn y maes nad oedd ganddi hi yn bersonol, gan ei bod yn sicr fod angen lleisiau arbenigol i siarad i mewn i’r weledigaeth: heddwas, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, ditectif, oedolion oedd â phrofiad o’r maes gofal... Gofynnodd Heulwen i bob un, “A yw pethau mor ddrwg a’r hyn yr wyf yn ei weld yn yr erthyglau yma? A yw hyn i gyd yn digwydd?” Yr ateb clir a chryno oedd “ydyw”, a roedd rhai o’r hanesion yn ddychrynllyd. Teimlodd Heulwen reidrwydd i ymateb.
“Roedd hyn yn digwydd ar fy stepen drws. Roedd yn digwydd yn ystod fy nhymor i o alwad. Mae’n wir ein bod ar y pryd yng nghanol y pandemig a bod cyfyngiadau ar yr hyn oedd yn bosibl, ond roedd rhywbeth yn bosibl. Felly dyma ddechrau dysgu sgiliau newydd. Yr oeddwn yn darllen popeth oedd ar gael imi, ystadegau, blogiau, gwefannau, deddfwriaeth, gwefan Home for Good. Yr oeddwn yn wylo yn aml. Wrth imi fynd am dro yn ddyddiol roedd yr amser yn llawn o weddïo wrth imi alw ar yr Arglwydd i weithio, i roi eglurdeb imi: wyneb yn wyneb ag anferthedd y broblem, beth fedrwn i ei wneud?
“Yna, fe ddysgais fod llawer o’r plant sy’n gorfod mynd i mewn i’r sustem gofal yn cludo popeth sydd ganddynt mewn bagiau bin du, neu mae llawer ohonynt heb y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt. Dywedodd un o fy ffrindiau wrthyf, un sydd wedi bod mewn gofal, ‘Pan oedd fy holl eiddo mewn bag bin, yr oedd yn gwneud imi deimlo fel sbwriel hefyd.’ Sylweddolais fod yna lwybr imi gynorthwyo, Gallwn wneud rhywbeth.
“Teimlais fod Duw yn rhoi Rhufeiniaid 8:17 imi: ‘Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ,...’ I blant sydd efallai’n teimlo nad oes iddynt fawr o werth, plant efallai sy’n dirnad teulu fel atgof poenus, i bobl ifanc sy’n cael anhawster teimlo eu bod yn perthyn, yn teimlo nad oes ganddynt hunaniaeth bersonol, mae Duw yn cyhoeddi, ‘y mae gwerth y tu hwnt i fesur yn perthyn ichwi, rydych yn gampwaith y nefoedd, rydych yn etifeddion.’
“Yn 2021, lansiwyd ein helusen, Heirs – enw ddewiswyd gan fod y plant hyn wedi eu creu i fod yn ‘etifeddion’ nid yn amddifad; meibion a merched, nid ystadegau. “Yn 2021 lansiwyd ein helusen Heirs, gan fod y plant hyn wedi eu gwneud i fod yn etifeddion, nid i fod yn anghofiedig. Wrthi gyfyngiadau COVID lacio ychydig, dyma gychwyn ar ein cynllun gwarbac – rhannu bagiau yn llawn o anrhegion oedd wedi eu dewis yn ofalus ac eitemau ymarferol i blant oedd yn mynd i mewn i’r sustem gofal.
“Mae ein gwarbaciau wedi eu dylunio yn weddigar ac ystyriol. Yr ydym wedi siarad â rhai sydd wedi gadael gofal, bobl broffesiynol, plant ac ieuenctid, er mwyn creu yr hyn sydd wedi ei alw yn ‘gariad mewn bag’. Ein gobaith yw y bydd y bagiau yma yn rhoi dernyn bach o gysur, ac yn rhoi urddas ar adeg heriol a dirdynnol, ac y bydd y cariad yma mewn bag yn rhyw ddarlun o’r cariad gwirioneddol sydd am eu cofleidio.
“Yn ystod y daith yma, daethom i wybod am blant oedd yn cael eu symud o’u cartrefi ar adegau o argyfwng ac yn treulio oriau mewn gorsafoedd heddlu tra bod pobl yn chwilio am leoliadau maeth ar eu cyfer. Yr ydym wedi creu Bocsys Offer sy’n cynnwys Lego, blancedi, tedis, clai, a llyfrau lliwio a llyfrau stori – y cyfan wedi eu dylunio i roi gwaith i ddwylo plant mewn gofid, yn disgwyl clywed ble y byddant yn cysgu’r nos.
Yn gynnar ar y daith bu imi ddarllen cyfrol John C. Maxwell ‘How to change your world’, ac yn y llyfr mae’n dweud ‘fod hyd yn oed y weithred lleiaf yn well na’r bwriad mwyaf.’ Mae’r adnoddau, y bagiau, y rhoddion yma yn ymddangos yn gyfraniad bach iawn i broblem sy’n anferth, ond rwy’n cael fy annog ymlaen gan wybod fod Duw yn medru gwneud rhyfeddodau gyda rhoddion bychan: gall gymryd gwarbac a newid bywydau.”
Mae Heulwen Davies yn Bencampwr Home for Good ac yn aelod o Grŵp Ymgynghori Cymru
You might also be interested in
Stories
Annabel's Story
We’d love to introduce you to Annabel. Her story shows us how the visions of both Safe Families and Home for Good have come together and complemented each other in the past, and this fills us with excitement for our future together.
Read moreStories
Dan's Story: Two things I'd want carers and parents to know
Dan reflects on his experience of foster care and adoption, and shares two things he'd love every foster carer, adoptive parent and supported lodgings host to know
Read moreStories
This really matters: Amara's* story
Amara shares with us her experience adopting her daughter, and her passion to see justice for Black children in care.
Read moreI would like to find out what is
going on in my area