Foster Wales Swansea

Welsh Version

Home for Good is working with Foster Wales Swansea, a local authority fostering service.


Swansea Council Logo


Request a call back

"Our experience with Foster Wales Swansea has been very positive. They have respected our faith, and been encouraging of the positive that church community can be for us, as well for the children we foster. Home for Good have been influential in our decisions to foster and adopt, and it's great to hear of the partnership here in Swansea."

A Home for Good foster carer


As a local authority foster carer in Wales, you will be joining Foster Wales, our national network of local authority fostering services, working together to build better futures for local children. All 22 Welsh Local Authorities have signed up to the National Commitment*, an agreed package of training, support and rewards for all our foster carers to enjoy.

Alongside the National Commitment, each local authority has an increased support package that meets their local need. As a Foster Wales Swansea carer you will have access to therapeutic intervention providing the support you need on your fostering journey.

Our support package also include access to regular support groups with other foster carers and social workers alongside an out of hours support line to ensure you feel completely supported by us in any tricky moments. However, we also like to celebrate with you, so we run Easter and Christmas Parties for the whole family to make precious memories together.

We understand the need to plan your finances, therefore payments to foster continue even when no children are placed with you. If you’re available to foster, we will ensure you are financially rewarded.

We also want to ensure you feel suitably rewarded and valued as a Foster Wales Swansea carer, which is why we offer competitive fees and allowances, generous long service awards and a growing number of discounts and benefits in and around Swansea.

If you are considering fostering, get in touch today to start your journey.



Mae Home for Good yn cydweithio â Maethu Cymru Abertawe, gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol.

Swansea Council Logo


Request a call back

"Mae ein profiad ni gyda Maethu Cymru Abertawe wedi bod yn un cadarnhaol iawn. Maent wedi parchu ein ffydd, gan gydnabod y gall cymuned yr eglwys fod yn llesol i ni, yn ogystal ag i’r plant rydym yn eu maethu. Cafodd Home for Good ddylanwad ar ein penderfyniadau i faethu a mabwysiadu, ac mae’n wych clywed am y bartneriaeth yma yn Abertawe.”

Dyfyniad gan un o'n gofalwyr


A chithau'n ofalwr maeth ar ran awdurdod lleol yng Nghymru, byddwch yn ymuno â Maethu Cymru, ein rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, sy'n cydweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol. Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru yn cefnogi’r Ymrwymiad Cenedlaethol*, sef pecyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cymorth a chydnabyddiaeth i’n holl ofalwyr maeth eu mwynhau.

Ochr yn ochr â’r Ymrwymiad Cenedlaethol, mae gan bob awdurdod lleol becyn cymorth sydd wedi'i helaethu ac sy’n diwallu eu hanghenion lleol. Fel un o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe bydd gwasanaeth ymyrryd therapiwtig ar gael i chi i ddarparu'r cymorth y mae arnoch ei angen ar eich taith faethu.

Yn ogystal, mae ein pecyn cymorth yn cynnwys y cyfle i fynychu sesiynau grwpiau cymorth yn rheolaidd gyda gofalwyr maeth eraill a gweithwyr cymdeithasol ynghyd â llinell gymorth y tu allan i oriau, er mwyn sicrhau'ch bod yn teimlo'ch bod yn cael ein cefnogaeth lwyr ar unrhyw adegau anodd. Fodd bynnag, rydym yn hoffi dathlu gyda chi hefyd, felly rydym yn cynnal Partïon Pasg a Nadolig ar gyfer y teulu cyfan lle cewch greu atgofion gwerthfawr gyda'ch gilydd.

Rydym yn deall yr angen i gynllunio'ch sefyllfa ariannol, felly byddwch yn dal i gael taliadau maethu hyd yn oed pan nad oes plant wedi'u lleoli gyda chi. Os ydych ar gael i faethu, byddwn yn sicrhau'ch bod yn cael cydnabyddiaeth ariannol.

Ar ben hynny, rydym yn awyddus i sicrhau'ch bod yn teimlo'ch bod yn cael eich cydnabod a'ch gwerthfawrogi'n briodol fel un o ofalwyr Maethu Cymru Abertawe. Felly, rydym yn cynnig ffioedd a lwfansau cystadleuol, cydnabyddiaeth hael am wasanaeth maith a mwy a mwy o ostyngiadau a buddion yn Abertawe a'r cylch.

Os ydych yn ystyried maethu, cysylltwch heddiw i gychwyn ar eich taith.


I would like to find out what is
going on in my area

Join our mailing list for the latest Home for Good news and ways to get involved.

Together we can find a home for every child who needs one.

£
Other amount
£
Other amount

£25 per month could help us create and collate inspiring articles and blogs that encourage and inform the families and communities who care for vulnerable children